Cynhanes Nifer fawr o garneddi, cylchoedd cerrig a meini hirion yn y bryniau o amgylch Llanymddyfri.
c. 70 OC Y Rhufeiniaid. Adeiladu caer Rufeinig Alabum yn Llanfair-ar-y-bryn
5ed ganrifYr Oesoedd Canol Cynnar. Dingad, un feibion Brychan Brycheiniog, yn ymsefydlu ger safle presennol Eglwys Llandingad
1095Y Normaniaid. Yr ardal o amgylch Llanymddyfri dan reolaeth y Normaniaid
1116Y cofnod hanesyddol cyntaf o Gastell Llanymddyfri, pan mae Gruffydd ap Rhys yn gwneud ymgais aflwyddiannus i’w gipio
c1120 Gwneud Llanymddyfri yn fwrdeistref
1126Benedictiaid Great Malvern yn codi priordy bychan yn Llanymddyfri
1162Rhys ap Gruffydd (Yr Arglwydd Rhys) yn cipio Castell Llanymddyfri
1279Llanymddyfri a’i chastell yn nwylo Edward I
1400Yr Oesoedd Canol Hwyr. Llywelyn ap Gruffydd Fychan o Gaeo, un o gefnogwyr Owain Glyn Dŵr, yn cael ei ddienyddio yn Llanymddyfri
1403Llanymddyfri yn cael ei dinistrio gan Owain Glyn Dŵr
1485Y Tuduriaid. Rhisiart III yn cyflwyno Siarter Corffori i John Tuchet, Arglwydd Llanymddyfri
1497Harri VII yn cyflwyno Arglwyddiaeth Llanymddyfri i Rhys ap Thomas
1532Anrheithio a llosgi Castell Llanymddyfri, a’r cerrig yn cael eu defnyddio i godi tai yn y dref
1590Y Frenhines Elisabeth yn ail-gadarnhau siarter y dref
1614Yr Ail Ganrif ar Bymtheg. Iago I yn cyflwyno Arglwyddiaeth Llanymddyfri i John Vaughan, Gelli-aur
1640Rhys Prydderch, Ystradwallter, ac awdur Gemmeu Doethineb, yn agor ysgol i anghydffurfwyr
1644Marwolaeth y Ficer Rhys Prichard. Casglwyd ei gerddi yn ddiweddarach mewn llyfr, Canwyll y Cymru
1689Crynwyr Cymreig yn prynu tir ar gyfer mynwent ar gyrion y dref
1717Y Ddeunawfed Ganrif. Geni’r Prif Ganiedydd, William Williams, Pantycelyn
1764Swyddfa Bost gyntaf y dref yn agor. Lucy Lloyd yw’r bostfeistres
1799Sefydlu Banc yr Eidion Du gan gyn-borthmon, David Jones
1802Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Yr Is-iarll Nelson, ynghyd â Syr William Hamilton a’i wraig, yn treulio noson yng Ngwesty’r Castell
1828Sefydlu Gwasg y Tonn gan William Rees a’i ewythr David Rice Rees, postfeistr y dref
1831Goleuo strydoedd y dref ag olew
1832Codi pont grog ar draws Afon Tywi
1848Sefydlu Coleg Llanymddyfri
1858Agor gorsaf drenau Llanymddyfri
1862Sefydlu Cwmni Nwy Llanymddyfri
1881Clwb Rygbi Llanymddyfri yn un o sylfaenwyr Undeb Rygbi Cymru
1896Ysgol Uwchradd Sirol Llanymddyfri yn agor i ferched yn unig. Ni dderbyniwyd bechgyn tan 1910
1901Yr Ugeinfed Ganrif. Codi ffownten yn Sgwâr y Farchnad, er cof am y meddyg, Dr F.W. Lewis, Violet Cottage
1906W.D. Caroe yn adnewyddu Eglwys Llandingad (a Llanfair yn 1913)
1910Sefydlu Clwb Golff Llanymddyfri ar dir wrth ymyl Heol Aberhonddu
1912Agor marchnad da byw
1923David Lloyd George yn derbyn Rhyddfraint Llanymddyfri
1924Codi Cofgolofn Rhyfel Llanymddyfri
1926Agor Ysbyty Llanymddyfri
1935Cyfuno Cynghorau Dosbarth Gwledig Llandeilo a Llanymddyfri
1988Agor marchnad da byw newydd
2001Yr Unfed Ganrif ar Hugain. Gosod cerflun i Lywelyn ap Gruffydd Fychan ar dwmpath y castell
2016Clwb Rygbi Llanymddyfri yn ennill Cwpan SWALEC