Roedd Llywelyn ap Gruffydd Fychan (tua 1341 – Hydref 9fed 1401) yn dirfeddiannwr lleol a gafodd ei ddienyddio o flaen porth Castell Llanymddyfri gan Harri IV fel cosb am ei gefnogaeth o Owain Glyndŵr.
Roedd Henry IV yng Nghymru gyda’i fyddin er mwyn chwalu’r gwrthryfel o dan arweiniad Glyndŵr, sef y Cymro brodorol olaf i ddal y teitl Tywysog Cymru. Roedd yn arwr flaenllaw yn ymladd rhyfel ffyrnig a hirhoedlog am annibyniaeth i Gymru.
Gwrandewch ar stori Llywelyn ap Gruffydd Fychan. Mae hyn yn rhan o Lwybr Sain Llanymddyfri y gellir ei lawrlwytho ar eich dyfais symudol yn yr Apple & Google App Stores.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue to use this site we will assume that you are happy with it.Ok